Carchar y Berwyn: '2,000 o garcharorion yn ormod'

Wrth i Garchar y Berwyn groesawu ei garcharorion cyntaf, mae cyn-swyddog carchar yn rhybuddio bod angen digon o staff yno er mwyn sicrhau diogelwch.

Dyma fydd y carchar mwyaf yng Nghymru a Lloegr, gyda lle i dros 2,000 o droseddwyr ond mae pryder y gallai'r gwasanaeth fod dan bwysau.

Iwan Griffiths aeth am sgwrs gyda'r cyn-swyddog carchar, Dafydd Harford, sy'n pryderu y bydd cymaint o garcharorion yn risg o ran diogelwch.