Ymgyrch Meibion Glyndŵr: Faint a phryd

Mae cynnwys papurau cyfrinachol o gyfnod ymgyrch llosgi tai haf Meibion Glyndŵr wedi cael eu datgelu i BBC Cymru yn dilyn blwyddyn o drafod gyda'r Swyddfa Gartref.

Cafodd y dogfennau - sy'n dyddio o 1980 hyd at 1990 - eu rhyddhau i raglen materion cyfoes Radio Cymru, Manylu, ar ôl i'r tîm cynhyrchu apelio ddwywaith yn erbyn y penderfyniad gwreiddiol i wrthod eu cyhoeddi.

Fe gafodd bron i 300 o dai eu llosgi dros gyfnod o 12 mlynedd.