Uned trawma arbenigol i Gymru

Mae newid mawr ar droed yn y modd y mae cleifion sydd wedi cael anafiadau difrifol yn cael eu trin yng Nghymru.

Daw hyn yn sgil pryder fod Cymru dan anfantais o'i gymharu â'r sefyllfa mewn nifer o wledydd eraill.

Mae ceisiadau yn cael eu hystyried gan ddau ysbyty i gael eu clustnodi yn Ganolfan Trawma Arbenigol - gyda disgwyl argymhelliad cyn bo hir.

Gohebydd Iechyd BBC Cymru, Owain Clarke, sydd wedi bod yn edrych ar y sefyllfa, gan fynd draw i dref Llanrwst i holi Llŷr Serw ap Glyn, sydd wedi gorfod mynd i Loegr yn ddiweddar i dderbyn triniaeth yn dilyn gwrthdrawiad difrifol.