Trwydded i gynllun 'ynni barcud' oddi ar arfordir Môn
Mae cwmni o Sweden sy'n gobeithio datblygu cynllun ynni arloesol gwerth £25m oddi ar arfordir Ynys Môn wedi cael trwydded i brofi'r dechnoleg yno.
Ar ôl asesu'r effeithiau posib, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi caniatáu i Minesto osod y barcud cyntaf yn y môr ger Caergybi cyn diwedd eleni.
Mae'r dechnoleg yn defnyddio cerrynt y môr i wthio dŵr drwy dyrbin, ac yna mae'r barcud yn "hedfan" dan y dŵr.
Os yw'r profion yn llwyddiannus fe allai'r cynllun fod yn weithredol erbyn 2020, gan greu digon o ynni i gyflenwi 8,000 o gartrefi.