Ynni Cymunedol Cymru: Cynnydd trethi hydro yn 'anhygoel'

Mae'r sector ynni cymunedol yn rhybuddio bod dyfodol sawl cynllun hydro yng Nghymru yn y fantol yn dilyn cynnydd sylweddol yn eu trethi busnes.

Bydd rhai yn gweld cynnydd yn eu taliadau o hyd at 900% yn dilyn ailasesiad diweddar.

Dweud eu bod nhw'n ymwybodol o'r sefyllfa mae Llywodraeth Cymru a'u bod yn ystyried cynnig cymorth penodol.

Mae Keith Jones, Cyfarwyddwr Ynni Cymunedol Cymru, yn dweud bod cynnydd mewn trethi busnes yn cael effaith ddinistriol ar gynlluniau ynni cymunedol, gan leihau faint o arian sydd ar gael i brosiectau lleol.