'Cyfrifoldeb' protestio dros ddatganoli darlledu

Mae dros 50 o ymgyrchwyr iaith yn gwrthod talu am eu trwyddedau teledu nes bod pwerau dros ddarlledu yn cael eu datganoli.

Aelodau Cymdeithas yr Iaith sy'n gweithredu, gan gynnwys cadeirydd y mudiad, Heledd Gwyndaf.

Dywedodd ei bod hi'n "gyfrifoldeb" i brotestio dros ddatganoli.