Cyn brif weinidog Cymru yn 'ffigwr hanesyddol'

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i gyn Brif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan, fu farw ddydd Mercher yn 77 oed.

Ar raglen y Post Cyntaf, dywedodd Gohebydd Materion Cymreig BBC Cymru, Vaughan Roderick, ei fod yn wleidydd "unigryw" ac yn "ffigwr hanesyddol".