'Angen cosbi beicwyr modur anghyfreithlon'

Wrth gwyno am dor-cyfraith mewn coedwigoedd yng Nghymru, mae ffermwr o Wynedd wedi dweud wrth Newyddion 9 bod pobl sy'n gyrru beiciau modur yn anghyfreithlon drwy'r coed hefyd yn saethu defaid yn farw.

Mae nifer o ffermwyr yn galw am gosbi llymach.

Yn ôl Heddlu Dyfed Powys mae gan blismyn bwerau i allu cadw beiciau troseddwyr.