Gwyn Derfel yn trafod uchafbwyntiau'r tymor pêl-droed

Gydag Uwch Gynghrair Cymru yn dathlu 25 mlynedd ers ei sefydlu, mae Gwyn Derfel wedi bod yn trafod uchafbwyntiau'r tymor diwethaf ar raglen Ar y Marc, Radio Cymru.

Yn 1992, daeth Cynghrair Cymru fel yr oedd hi i fodolaeth dan arweiniad cyn-ysgrifennydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru, y diweddar Alun Evans.

Ar y pryd roedd statws Cymru fel gwlad annibynnol dan oruchwyliaeth FIFA dan fygythiad, gan fod y prif glybiau yng Nghymru yn chwarae eu pêl-droed yng nghynghreiriau Lloegr.