Llais pobl ifanc 'heb ei glywed' ym mhleidlais Brexit
Mae pobl ifanc yng Nghymru yn parhau'n ansicr ynglŷn ag effaith Brexit ar eu bywydau, yn ôl ymchwil newydd gan staff ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Ond mae'r ymchwil yn dweud eu bod yn benderfynol o'i wynebu gydag agwedd bositif.
Dr Elin Royles a Dyfan Powel o Ganolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru wnaeth gynnal yr ymchwil, a bu'r ddau'n trafod y canfyddiadau.