'Actorion ag anableddau dysgu angen mwy o gyfle'
Mae galwadau am well cyfleoedd i actorion sydd ag anableddau dysgu.
Wrth i berfformwyr o wahanol rannau o Ewrop a thu hwnt gyrraedd Caernarfon ar gyfer gŵyl gelfyddydau arbennig, mae'r trefnwyr am weld chwarae teg ar lwyfan a theledu i actorion ag anableddau dysgu.
Clywodd Newyddion 9 fod y sefyllfa bresennol yn warthus.