Dwyn hanes chwerw Streic y Penrhyn i gof

Cafodd gwaith celf i goffáu Streic y Penrhyn ei ddadorchuddio mewn digwyddiad ddydd Sadwrn.

Mae'r cerflun, sy'n rhan o arddangosfa Llechi a Llafur, wedi ei gynllunio gan gwmni Walker a Bromwich o Lundain, a'r nod yw cyfleu y chwerwder a'r dioddefaint a achosodd yr Arglwydd Penrhyn i chwarelwyr Bethesda a'u teuluoedd yn ystod streic 1900-1903.

Dyw nifer o bobl leol Bethesda a'r ardal, medd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ddim wedi bod eisiau mynd i'r castell oherwydd chwerwder yr hanes.

Sion Tecwyn sydd â'r stori.