'Torcalonnus': Profiad ffermwr o golli defaid

Mae angen pwerau ychwanegol ar yr heddlu i ddelio efo cŵn sy'n ymosod ar ddefaid, yn ôl uned arbenigol Heddlu'r Gogledd.

Un sydd wedi cael ei effeithio yn uniongyrchol gan gŵn sy'n lladd defaid ydy Twm Hughes, sy'n ffermio ym Morth yr Hir Faen, ger Porthmadog.

Efo traeth poblogaidd y Greigddu a llwybr yr arfordir gerllaw, mae o wedi cael sawl achos o gŵn yn ymosod ar ei ddefaid.