Pryder am israddio cwch achub Cei Newydd

Mae criw o bobl o Gei Newydd yng Ngheredigion yn rhybuddio y bydd bywydau mewn perygl os nad yw'r penderfyniad i israddio un o fadau achub Bae Ceredigion yn cael ei newid.

Maen nhw'n poeni na fydd cwch pob tywydd wedi ei leoli ar hyd 70 milltir o'r arfordir rhwng Y Bermo ac Abergwaun.

Yn ôl yr RNLI, dyw cwch pob tywydd Cei Newydd ddim yn cael ei ddefnyddio'n ddigon aml.

Y stori'n llawn gan Teleri Glyn Jones.