'Angen gwella mesurau diogelwch y Sioe Frenhinol'

Mae chwaer dyn a fu farw tra'n cerdded adref yn ystod Y Sioe Frenhinol 13 mlynedd yn ôl wedi galw am wella'r mesurau diogelwch yn ystod Y Sioe.

Mae Elen Williams o Henllan, Sir Ddinbych yn dweud bon angen gwella'r mesurau er mwyn diogelu pobl ifanc.

Yn gynharach fe gadarnhaodd y Sioe mai corff James Corfield oedd wedi bod ar goll am bron i wythnos gafodd ei ddarganfod yn Afon Gwy ddoe ac mae'r Sioe Frenhinol wedi cydnabod ei bod yn cynnal adolygiad i weld os oes 'na wersi i'w dysgu.

Dyma adroddiad Mari Grug.