Guto Bebb: Eisiau 'llais y gwylwyr' yn adolygiad S4C
Mae Llywodraeth y DU wedi cadarnhau mai cyn-gyfarwyddwr rhaglenni S4C, Euryn Ogwen Williams fydd yn cadeirio adolygiad annibynnol o'r sianel.
Bydd yn edrych ar elfennau megis cylch gwaith y sianel, llywodraethu, ei atebolrwydd a'i bartneriaeth â'r BBC, a'r dulliau cyllido presennol, ac mae disgwyl iddo adrodd yn ôl cyn diwedd y flwyddyn.
Wrth lansio'r adolygiad yn yr Eisteddfod, dywedodd gweinidog Swyddfa Cymru, Guto Bebb ei fod am gael "llais y gwylwyr" yn yr adroddiad.