Banc bwyd: 'Defnydd wedi dyblu dros wyliau'r haf'

Mae gan Gymru "broblemau unigryw" ynglŷn â thlodi ac mae'n tyfu'n or-ddibynnol ar fanciau bwyd, yn ôl cyfarwyddwr elusen.

Mae Tony Graham o Ymddiriedolaeth Trussell eisiau i Lywodraeth Cymru helpu ffurfio cynlluniau i atal pobl rhag mynd i "argyfwng".

Un sydd wedi gweld cynnydd yn nefnydd banciau bwyd yw Huw Evans o Gyngor Tref Pontardawe, sy'n gwirfoddoli ym manc bwyd y dref.