Ffrae ynglŷn â thorri miloedd o goed ger Castell Coch
Mae'n un o olygfeydd amlycaf de Cymru, ond mae ffrae yn corddi ynglŷn â chynlluniau i dorri miloedd o goed ger Castell Coch.
Mae'r coed llarwydd dan sylw wedi'u heintio â chlefyd sy'n eu lladd, a Chyfoeth Naturiol Cymru yn dweud bod rhaid eu dymchwel i atal y llid rhag lledu.
Ond mae ymgyrchwyr yn dadlau y gallai'r llecyn hardd gael ei ddifetha os na fydd mwy o goed yn cael eu plannu yn eu lle.
Y stori'n llawn gan Ohebydd Amgylchedd BBC Cymru, Steffan Messenger.