Parc Cenedlaethol Eryri'n mynd i'r afael â'r rhododendron

Mae mynd i'r afael ag effaith y rhododendron ar blanhigion eraill yn her "hir dymor", yn ôl Parc Cenedlaethol Eryri.

Daw sylw'r parc wedi i arbenigwyr yn Yr Alban ganfod bod planhigion naturiol angen cymorth i dyfu hyd yn oed ar ôl i'r rhododendron - sy'n eu cuddio rhag yr haul - gael ei ddifa.

Mae Parc Cenedlaethol Eryri wedi cynnal prosiectau i ddelio â'r planhigyn ym Meddgelert a Nant Gwynant yng Ngwynedd.

Adroddiad gan Siôn Tecwyn.