Polisi bysiau ysgol i blant Llanfairpwll yn 'annerbyniol'

Mae rhieni wedi lleisio eu gwrthwynebiad i gynnydd ym mhris cludo plant o Lanfairpwll ar Ynys Môn i'r ysgol uwchradd leol.

Dydy Cyngor Ynys Môn ddim yn gorfod darparu cludiant i ddisgyblion o'r dref i Ysgol David Hughes ym Mhorthaethwy gan fod y daith yn llai na thair milltir.

Ond yn ôl un rhiant, Bethan Griffiths, mae'r syniad y dylai blant gerdded os ydyn nhw'n byw o fewn tair milltir i'r ysgol yn perthyn i'r "hen oes" ac yn "annerbyniol".

Mae'r cyngor yn dweud eu bod yn ceisio codi tâl sy'n deg i rieni ac i drethdalwyr.