Ailgylchu yn "gallu bod yn gymhleth" ond werth gwneud

Mae data newydd yn awgrymu mai pobl rhwng 18- 34 sydd â'r arferion gwaethaf o ran ailgylchu gydag dros chwarter yn cyfaddef rhoi sbwriel yn y bin ailgylchu heb wybod os mai dyna'r peth cywir i neud.

Mae arferion ailgylchu gwael yn gallu arwain at wastraff wedi'i lygru.

Yn ôl sefydliad Ailgylchu dros Gymru mae angen gwella'r ffordd mae pobol yn ailgylchu er mwyn atal arferion gwael rhag amharu ar y broses.

Mae Rhys Norris, sydd yn byw ym Mhontypridd, yn dweud ei fod yn awyddus i wneud y penderfyniadau cywir wrth ailgylchu gan ei fod e'n poeni am yr amgylchedd.

Ond mae'n cyfaddef weithiau bod pethau yn cael eu rhoi yn y biniau anghywir.