Cymro yn disgrifio dyfais yn ffrwydro ar drên yn Llundain
Yn dilyn yr ymosodiad terfysgol yn Llundain fore Gwener, mae'r prif weinidog Theresa May wedi cyhoeddi bod y lefel bygythiad yn codi i'r lefel uchaf posib. Sy'n golygu bod ymosodiad arall yn debygol.
Mae'r Wladwriaeth Islamaidd wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad terfysgol. Mae'r chwilio yn parhau am y sawl oedd yn gyfrifol am osod dyfais ar drên yn ardal Parson's Green.
Fe gafodd dros ugain o bobl fan anafiadau.
Owain Evans fu'n siarad â Thomas McCall oedd ar y trên ar y pryd.