Her rasio F1 i ferched Ysgol Brynrefail
Mae rhai o ferched o Ysgol Brynrefail yn Llanrug ar eu ffordd i Falaysia i gystadlu mewn pencampwriaeth rasio ceir.
Y merched fydd yn cynrychioli Cymru yn y gystadleuaeth, sydd â'r nod o ddylunio ac adeiladu car 30cm o hyd sy'n rasio ar drac 20 metr.
Ar ôl ennill yma yng Nghymru, bydd degau o ysgolion eraill yn cystadlu yn eu herbyn ym Malaysia.