Refferendwm Catalunya: Adroddiad arbennig Gohebydd BBC Cymru

Mae dros 450 o bobl wedi'u hanafu wrth geisio bwrw pleidlais mewn refferendwm ar annibyniaeth yn Catalunya.

Yn ôl llywodraeth Sbaen mae'r refferendwm yn "anghyfreithlon" ac yn "anghyfansoddiadol".

Yn ôl Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, mae'r golygfeydd yno yn ddychrynllyd.

Gohebydd BBC Cymru, Steffan Messenger oedd yn Barcelona ddydd Sul.