Cymdeithas yr Iaith eisiau mwy o ysgolion cyfrwng Cymraeg

Roedd tua 50 o bobl mewn rali yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn yn galw ar y cyngor i gynyddu'r ysgolion cyfrwng Cymraeg yng Nghaerdydd.

Yn ôl Cymdeithas yr Iaith mae angen 10 ysgol arall yn y pum mlynedd nesaf er mwyn cyfrannu at uchelgais Llywodraeth Cymru i gyrraedd y miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Mae Cyngor Caerdydd yn dweud eu bod yn ateb y galw yn barod ac wedi ymrwymo i wneud yn siŵr bod yna ddarpariaeth yn ei le ar gyfer siaradwyr Cymraeg i'r dyfodol.