Yr iaith yn 'hanfodol bwysig' i Gastell Aberteifi

Mae Cyfarwyddwr newydd Castell Aberteifi, Jac Davies, wedi mynnu y bydd yna le canolog i'r Gymraeg a threftadaeth yng Nghastell Aberteifi yn y dyfodol.

Jac Davies yw'r trydydd person i lenwi swydd Cyfarwyddwr y Castell mewn cyfnod o 5 mlynedd ac roedd yn dechrau ar ei waith wythnos ddiwethaf.

Yn y gorffennol roedd pobl leol yn cwyno nad oedd yna le digon blaenllaw i'r Gymraeg a threftadaeth a diwylliant lleol.

Ond mae'r dyn ifanc o Gastellnewydd Emlyn yn dweud bod yr iaith yn "hanfodol bwysig."