Sut mae lleihau marwolaethau ar ffyrdd 'Triongl Evo'?
Mae angen sefydlu uned arbennig i fonitro'r we er mwyn atal pobol rhag dod i ardal benodol o Gymru i yrru'n beryglus o gyflym, yn ôl Aelod Cynulliad.
Dywedodd Llŷr Huws Gruffydd wrth raglen materion cyfoes BBC Radio Cymru Manylu bod rhaid gwneud rhywbeth ar ôl i ymddygiad rhai gyrwyr ar rwydwaith o ffyrdd sy'n cael eu hadnabod fel 'Triongl Evo' ddatblygu'n gymaint o broblem.
Mae pedwar o bobl wedi cael eu lladd ar y lonydd yn siroedd Conwy a Dinbych ystod y pum mlynedd ddiwethaf ac 20 wedi eu hanafu, 10 ohonyn nhw yn ddifrifol.
Sarjant Tristan Bevan o Heddlu Gogledd Cymru sy'n egluro'r pryder am bobl yn goryrru ar y ffyrdd, a'r ffordd orau i fynd i'r afael â'r broblem.