'Dim penderfyniad' ar leoliad Eisteddfod Sir Conwy 2019

Does 'na ddim penderfyniad o hyd ynglŷn â safle'r Eisteddfod Genedlaethol pan fydd yn ymweld â Sir Conwy ymhen dwy flynedd.

Fe aeth dros 200 o bobl i gyfarfod cyhoeddus yn Llanrwst nos Iau i ddechrau trafod y gwaith codi arian a'r paratoadau fydd eu hangen.

Abergele a Llanrwst yw'r ddau leoliad sydd yn geffylau blaen, gyda thrigolion lleol yn trafod ai mynd â'r Brifwyl i'r dyffryn neu'r glannau fyddai orau.

Mae'n debyg na fydd cyhoeddiad ynglŷn ag union safle'r maes nes fis nesaf - Dafydd Evans fu'n clywed mwy.