Pryder am ddiffyg beiliffs dŵr i amddiffyn afonydd
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn methu yn eu dyletswydd i ddiogelu a gwella ein pysgodfeydd, a byddai tynnu'r cyfrifoldebau oddi arnyn nhw yn gwella'r sefyllfa, yn ôl cymdeithasau pysgota.
Mae rhaglen Manylu ar Radio Cymru wedi clywed am bryderon ymysg pysgotwyr nad oes digon yn cael ei wneud i ddal rhai sy'n potsio, a diogelu'r pysgodfeydd.
Mae Emyr Lewis o Lanbrynmair, oedd yn failiff dŵr am 40 mlynedd, yn dweud bod y cwymp yn eu nifer wedi arwain at gynnydd mewn potsio.