Gosod isafbris ar alcohol 'am effeithio ar yfwyr trwm'
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyfraith newydd fydd yn dynodi isafbris ar gyfer gwerthu alcohol yng Nghymru.
Yn ôl Andrew Misell o Alcohol Concern bydd gosod isaf bris ar alcohol yn effeithio yfwyr trwm.
Mae'r llywodraeth wedi cyhoeddi'r gyfraith newydd gan ddweud y bydd yn taclo goryfed ac y gallai olygu y bydd un bywyd yn cael ei achub yr wythnos.
Byddai cyflwyno isaf bris uned o 50c yn golygu na fyddai can o seidr yn cael costio llai na £1 neu £4.69 am botel o win.