Pobl ag anableddau dysgu i rannu eu straeon

Mae gan un ym mhob 20 o bobl yng Nghymru anableddau dysgu - ond ydyn ni'n gwybod digon o'u hanes?

Mewn prosiect arloesol bydd £400,000 yn cael ei fuddsoddi gan y Loteri Genedlaethol er mwyn i bobl ag anableddau dysgu gael adrodd eu straeon am y tro cyntaf.

Mencap Cymru sy'n gyfrifol am y cynllun, ac Aled Huw aeth i glywed mwy ar ran Newyddion 9.