Meddygaeth: 'Dim gostwng safonau i Gymry ifanc'

Fydd yna ddim gostwng safonau er mwyn cael mwy o Gymry ifanc i astudio meddygaeth, yn ôl aelod blaenllaw o staff Ysgol Feddygol Prifysgol Caerdydd.

Ar drothwy cyfres newydd - Doctoriaid Yfory ar S4C - mae gohebydd BBC Cymru, Owain Evans wedi bod yn clywed am yr ymdrechion i ddenu rhagor o fyfyrwyr o Gymru i'r maes, a sicrhau eu bod nhw'n aros yma ar ôl graddio.