Cofio dyddiau da y Cŵps

Ddiwedd y mis fe fydd tafarn enwog y Cŵps yn Aberystwyth yn cau ei drysau ar ôl i'r bragwyr fethu â dod o hyd i denantiaid newydd.

Ar hyd y blynyddoedd bu'r dafarn yn gyrchfan poblogaidd i fyfyrwyr a Chymry Cymraeg y dref.

Mae'r awdur a'r darlledwr Lyn Ebenezer yn cofio'r dyddiau pan oedd y dafarn yn ei hanterth.