Aflonyddu: Angen 'system gadarn' medd Carwyn Jones

Mae Prif Weinidog Cymru wedi dweud na "allwn ni eistedd yn ôl" yn sgil honiadau o aflonyddu rhywiol yn San Steffan.

Er ei fod yn dweud nad yw wedi clywed am unrhyw honiadau yn y Cynulliad mae'n dweud bod hi'n bwysig cael system yn ei le er mwyn diogelu staff.

Roedd hyn yn un o'r pynciau wnaeth o drafod yn ystod ei gyfarfod gyda Theresa May yn Downing Street ddydd Llun.