'Goblygiadau i benderfyniadau a datganiadau cyhoeddus'
Mae'r cyn-weinidog Plaid Cymru, Rhodri Glyn Thomas, wedi rhoi teyrnged i Carl Sargeant.
Dywedodd ei fod "yn weinidog oedd yn angerddol am gyfiawnder cymdeithasol" a bod ei farwolaeth yn "golled fawr iawn, iawn".
Ond ychwanegodd bod angen bod yn "ofalus" ynglŷn â sefyllfaeodd ble mae pobl yn cael eu cyhuddo o honiadau o gamymddwyn, fel yn achos Mr Sargeant.
"Be sy'n amlwg ydy fod Carl wedi penderfynu fod e wedi'i gael yn euog cyn ei fod wedi cael cyfle i amddiffyn ei hunan," meddai.
"Mae'n rhaid i bobl sylweddoli fod 'na oblygiadau i benderfyniadau a datganiadau cyhoeddus, a hefyd y ffordd mae'r cyfryngau'n ymdrin â materion fel hyn."