Vaughan Roderick: 'Sioc a galar, ond hefyd dicter'

Wrth ymateb i farwolaeth y cyn-weinidog, Carl Sargeant, dywedodd Golygydd Materion Cymreig y BBC, Vaughan Roderick bod teimlad o "sioc a galar" yn y Cynulliad.

Ond dywedodd hefyd ei fod yn "synhwyro bod ton o ddicter" all amlygu ei hun yn y dyddiau nesaf.