Trigolion yn dathlu ailagor Tafarn Sinc yn Sir Benfro

Mae trigolion yng ngogledd Sir Benfro wedi bod yn dathlu ddydd Mawrth wrth i'r dafarn leol ailagor.

Ar ôl codi dros £325,000, y gymuned leol yw perchnogion newydd Tafarn Sinc.

Roedd pryder y byddai'r dafarn yn cau am byth ar ôl i'r cyn berchnogion fethu â dod o hyd i brynwr.

Cafodd Cymdeithas Tafarn Sinc ei ffurfio ddiwedd Gorffennaf yn dilyn cyfarfod cyhoeddus ym Maenclochog, ac fe gafodd gefnogaeth yr actor Rhys Ifans.

I ddathlu'r achlysur Hefin Wyn, un o gyfarwyddwyr Cymdeithas Tafarn Sinc, wnaeth gyflwyno'r peint cyntaf i Ryan John, un o selogion y dafarn.