Gwleidyddion gallu bod yn 'bobl fregus' medd Dyfed Edwards

Mae'r cyn arweinydd cyngor Dyfed Edwards yn dweud bod hi'n bwysig cofio bod gwleidyddion yn gallu bod yn "bobl fregus" weithiau.

Daw ei sylwadau wedi'r newyddion ddydd Mawrth bod y cyn-weinidog Carl Sargeant wedi ei ganfod yn farw.

Y gred yw ei fod wedi lladd ei hun.

Yn ôl Dyfed Edwards mae yna "berygl i bobl ystyried fod gwleidyddion yn fodau ar wahân ar adegau ac heb yr un anghenion a phobl eraill".