Teyrnged Emyr Llewelyn i 'gawr mawr addfwyn'
Mae Emyr Llewelyn yn dweud mai "cawr mawr addfwyn" oedd y diweddar John Albert Jones.
Fe wnaeth y ddau - ynghyd ag Owain Williams - osod bom mewn trosglwyddydd ar safle gwaith codi argae ar draws Cwm Tryweryn yn 1963.
Wrth siarad ar raglen Y Post Cyntaf ar Radio Cymru, dywedodd Mr Llewelyn mai Mr Jones oedd yn "cynrychioli gwerin bobl Cymru."