Galwadau am iechyd meddwl yn 'atal gwaith yr heddlu'
Mae rhybudd bod rhai o heddluoedd Cymru yn methu atal troseddau oherwydd nifer cynyddol o alwadau'n ymwneud ag iechyd meddwl.
Mae un llu - Heddlu'r De - wedi gweld cynnydd o dros 200% yn nifer y galwadau dros y pum mlynedd diwethaf.
Ac o ran lles y claf, mae rhaglen Newyddion 9 wedi clywed profiad un ddynes ifanc sy'n dweud mai galw'r heddlu yw'r peth diwethaf ddylai ddigwydd. Adroddiad Ellis Roberts.