Nantycaws: Valero 'ddim yn fodlon cyfaddef eu bai'
Dros flwyddyn ers i 140,000 litr o olew ollwng i afon yn Sir Gaerfyrddin, mae pobl leol yn parhau i ddisgwyl am iawndal.
Mae Valero, sy'n berchen ar y bibell, wedi rhoi £40,000 i'r cyngor cymunedol "mewn cydnabyddiaeth o amynedd trigolion".
Ond mae pobl sydd wedi cael eu heffeithio'n uniongyrchol gan y digwyddiad yn Nantycaws yn dweud eu bod wedi derbyn dim.
Dywedodd Gareth Rees, sy'n ffermio tir gafodd ei effeithio gan y gollyngiad olew, nad yw'r trafodaethau gyda Valero'n mynd yn dda.