Gorlenwi yn creu trafferth i staff a charcharorion

Mae pryder difrifol dros ddiogelwch carcharorion a gweithwyr Carchar Abertawe oherwydd gorlenwi a phrinder staff.

Dywedodd un elusen wrth Newyddion 9 bod carcharorion yn cael eu cloi yn eu celloedd dros benwythnosau cyfan yn "aml iawn" oherwydd diffyg staff.

Mae hynny'n golygu bod carcharorion yn gorfod aros yn eu celloedd o brynhawn Gwener hyd at amser cinio ddydd Llun.

Mae Ian Moses wedi bod yn ymwelydd carchar yn Abertawe, a dywedodd bod tensiwn oherwydd y gorlenwi.

Dywedodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder bod "trawsnewid carchardai i lefydd o ddiogelwch a gwelliant yn brif flaenoriaeth" a'u bod yn "taclo'r broblem".