Osian Roberts yn datgan ei ddiddordeb yn y swydd o reoli Cymru

Mae is-reolwr Cymru, Osian Roberts wedi datgan ei ddiddordeb yn y swydd o reoli Cymru.

Dywedodd ar raglen Ar y Marc, BBC Radio Cymru "nad oes amheuaeth" ganddo y gallai "lwyddo yn y swydd."

Mae Cymru yn chwilio am reolwr newydd wedi i Chris Coleman ymddiswyddo er mwyn cymryd yr awennau yn Sunderland.

Ychwanegdodd: "Does genai ddim amheuaeth gallai lwyddo yn y swydd, allai ddim bod mwy profiadol ar y lefel rhyngwladol heb wneud y swydd."