Drôn yn cysylltu'r 'Ochr dywyll' ger Llangollen

Pentref gwledig ger Llangollen yw un o'r cyntaf drwy'r byd i gael cymorth drôn er mwyn sicrhau cysylltiad band-eang ffeibr tra chyflym.

Roedd rhaid defnyddio'r drôn er mwyn cludo cêbl ffeibr i 20 o dai a busnesau mewn rhan anghysbell o bentref Pontfadog yn Nyffryn Ceiriog.

Mae trigolion lleol yn cyfeirio at yr ardal fel yr 'Ochr dywyll' oherwydd heriau daearyddol y dyffryn.