'Parhau i wneud pethau anhygoel' yn Abertawe

Bydd pobl Abertawe yn "parhau i wneud pethau anhygoel" yn y ddinas er na chafodd ei dewis fel Dinas Diwylliant 2021, yn ôl Carol Mol oedd yn aelod o dîm Abertawe 2021.

Coventry ddaeth i'r brig o flaen pedair dinas arall, gan olygu bod cais Abertawe bellach wedi methu dwywaith.