Ymgyrch i adfer ac ailagor Twr Marcwis
Ar ddau gan mlwyddiant adeiladu Twr Marcwis ar Ynys Môn mae ymgyrch wedi dechrau i'w adfer a'i ail-agor.
Bu'n rhaid cau'r atyniad Gradd II ger Llanfairpwll yn 2012 am fod y grisiau y tu mewn yn anniogel.
Mae 'na amcangyfrif y bydd y gwaith adfer yn costio dros £200,000.
Mae'r Marcwis presennol, sy'n gadeirydd yr ymddiriedolaeth sy'n berchen ar y twr, wedi cyfrannu arian i ddechrau'r ymgyrch i ail-agor yr atyniad.
Dyma adroddiad Dafydd Gwynn.