'Angen siarad yn aml' â phlant am ddiogelwch ar-lein

Wrth i'r Comisiynydd Plant rybuddio ynglŷn â negeseuon secstio, mae'r NSPCC yn dweud nad oes digon o rieni'n rhoi gosodiadau preifatrwydd ar ddyfeisiadau er mwyn diogelu eu plant ar-lein.

Yn ôl gwaith ymchwil gan raglen Post Cyntaf BBC Radio Cymru does dim trefn benodol i gofnodi achosion o secstio yng Nghymru.

Yn ôl ymchwil yr elusen blant yr NSPCC, dyw 46% o rieni ddim yn newid gosodiadau i ddiogelu eu plant ar lein - neu parental controls.

Dywedodd Siân Regan, swyddog datblygu gyda'r NSPCC, mai'r "peth symlaf i'w wneud yw sgwrsio amdano'n aml, ac yn gynnar".