'Llygedyn o obaith' i helpu gwyddau talcen wen oroesi
Mae tagiau electronig sydd wedi'u gosod ar rai o adar mwyaf prin Ewrop wedi darparu "data allweddol" allai helpu diogelu dyfodol y rhywogaeth, medd ymchwilwyr.
Mae'r RSPB yn amcangyfrif bod poblogaeth gwyddau talcen wen yr Ynys Las yng ngwarchodfa Ynyshir ger Machynlleth wedi gostwng 83% ers 1990.
Prin yw'r astudiaethau sydd wedi'u cynnal ar yr adar, ond mae ymchwil gafodd ei ariannu gan Lywodraeth Cymru wedi darparu gwybodaeth newydd sy'n cael ei ddisgrifio fel "llygedyn o obaith".