'Her bositif' i hoci Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad
Bydd Cymru'n anfon timau hoci dynion a menywod i Gemau'r Gymanwlad eleni am y tro cyntaf ers 20 mlynedd.
Mae'r ddau dîm bellach yn cael eu cyfri' ymhlith y 10 uchaf yn y Gymanwlad, ac yn ôl hyfforddwr y tîm merched, mae'r profiad o fynd i chwarae goreuon yn y byd yn y gemau yn Awstralia yn cael ei gweld fel "her bositif".
Bydd y menywod yn wynebu De Affrica, India, Lloegr a Malaysia yn eu grŵp, tra bod y dynion yn chwarae yn erbyn India, Lloegr, Malaysia a Phacistan.
Un sy'n gobeithio bod ar yr awyren i'r gemau ydy Rosie Bailey, sy'n wreiddiol o Aberystwyth. Mae hi'n dweud bod y garfan yn un "uchelgeisiol".
Lowri Roberts aeth am sgwrs ar gyfer rhaglen Newyddion 9.