Barn gyhoeddus ar daro plant 'wedi newid'

Mae Llywodraeth Cymru yn dechrau casglu barn pobl ar gynlluniau i atal pobl rhag taro plant yng Nghymru.

Bydd yr ymgynghoriad, fydd yn para tri mis, yn gofyn am farn y cyhoedd ynglŷn â'r cynnig i ddiddymu'r amddiffyniad 'cosb resymol'.

Dyw'r ddeddfwriaeth arfaethedig ddim yn golygu creu trosedd newydd.

Yn hytrach ni fyddai gan oedolyn sydd yn edrych ar ôl blentyn hawl i gosbi'r plentyn hwnnw yn gorfforol.

Wrth lansio'r ymgynghoriad dywedodd Huw Irranca-Davies, Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, fod magu plant ddim yn hawdd ond y gall taro plentyn gael effaith niweidiol.